Cyntafanedigaeth

Cyntafanedigaeth
Enghraifft o'r canlynolnorm etifeddiaeth Edit this on Wikidata
MathEtifeddiaeth Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebolafanedigaeth Edit this on Wikidata
Brenhiniaethau Ewrop yn ôl math o olyniaeth:      Cyntafanedigaeth absoliwt      Cyntafanedigaeth gytras gyda blaenoriaeth i wyrod, a gynlluniwyd i symud i'r absoliwt      Cyntafanedigaeth gytras gyda blaenoriaeth i wyrod      Cyntafanedigaeth agnodol      Drwy etholiad neu benodiad

Cyntafanedigaeth [1][2] (Saesneg: primogeniture o'r Lladin am "cyntaf-anedig") yw'r system o etifeddiaeth gan y cyntafanedig, fel arfer y mab hynaf.[3] Yn Lloegr ffiwdal (yn wahanol i'r drefn o dan Cyfraith Hywel yng Nghymru) a systemau cyfreithiol eraill, y mab cyntaf-anedig cyfreithlon sy'n cael yr hawl gyntaf i etifeddu eiddo.[4] Mae ei hawliad yn gryfach na phob merch, mab iau a hyd yn oed meibion ​​hynaf anghyfreithlon. Y rheol yw y bydd yr hynaf bob amser yn cael yr hawliad cyntaf. Os nad oes mab, bydd pob un o'r merched yn etifeddu cyfran gyfartal o'r ystâd.[4] Os nad oes plant, mae'r eiddo yn aml yn cael ei etifeddu gan y brawd hynaf. Ymhlith brodyr a chwiorydd, mae meibion ​​yn etifeddu cyn merched ac yn y blaen.

Ceir y cofnod cynharaf o'r gair (fel cyntaf-anedigaeth) ym Meibl William Morgan yn 1588 yn llyfr Genesis.[5]

  1. "primogeniture". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 27 Hydref 2023.
  2. "Y beirniad cyhoeddiad trimisol, er egluro gwyddoriaeth, gwladyddiaeth, llenyddiaeth a chrefydd". Ebrill 1871. Cyrchwyd 26 Hydref 2023. Unknown parameter |publication= ignored (help)
  3. "primogeniture". Dictionary.com. Cyrchwyd January 20, 2017.
  4. 4.0 4.1 "primogeniture". Legal Information Institute. Cornell University Law School. Cyrchwyd January 20, 2017.
  5. "Cyntaf-anedigaeth". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 27 Hydref 2023.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search